Mae Llanberis wedi'w leoli ar droed Yr Wyddfa ac yn fan cychwyn hwylus i ymweld ag atynniadau Gogledd Cymru. Mae ein fflatiau ar y Stryd Fawr ac yn agos i amryw o siopau, caffis a tai bwyta. Yn ychwanegol, mae eu lleoliad canolog yn rhoi cyfle i fwynhau'r diwylliant lleol - lle mae'r iaith Gymraeg yn bwysig dros ben i hunaniaeth yr ardal.
Er bod y rhan fwyaf o ymwelwyr i'r ardal yn dod i ddringo'r Wyddfa, mae pentref Llanberis yn cynnig amryw o atynniadau sy'n adlewyrchu'r ffaith fod bywoliaeth yr ardal, ar un adeg, wedi dibynnu yn fawr ar y diwydiant llechi. Mae croeso hefyd i ymwelwyr i Orsaf Pwer Dinorwig, sy'n creu trydan glân yn y mynyddoedd, ac mae posib cyrraedd i gopa'r mynyddoedd - Yr Wyddfa - ar Reilffordd yr Wyddfa, sy'n parhau i gludo ymwelwyr yn yr hên ffordd gydag injan stêm.
Mae Llanberis yn mherfeddion Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n
estyn o'r mynyddoedd tu ôl Bae Conwy yn y gogledd i
gopa Cader Idris a genau afon Dyfi yn y de. Canolwbynt y Parc yw'r Wyddfa - y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr - sy'n sefyll 1,085 medr (3,560 troedfedd) uwchben lefel-y-môr. Yn ogystal â'r mynyddresi mwyaf enwog, mae'r Parc Cenedlaethol hefyd yn cynnwys digonedd o arfordir, dyffrynoedd a llynoedd prydferth, yn ogystala hen bentrefi gydag adeiladau traddodiadol o garreg lleol. Mae ffermio a twristiaeth yn gyfrifol am y mwyafrif o incwm yr ardal yn yr oes hon, ond mae olion yr hên ddiwydiannau yn amlwg i'w gweld yn yr ardal, sefl yr hen byllau copr a chwareli yn Llanberis a Blaenau Ffestiniog. Mae'r unig dren 'rac-a-phiniwn' ym Mhrydain yn cludo twristiaid i gopa'r Wyddfa ac hefyd mae hen rwydwaith rheilffordd sy'n ymlwybro o Borthmadog a Tywyn tua'r canolbarth.
O fewn tafliad carreg i Lanberis mae tref hanesyddol Caernarfon ac mae'n enwog yn bennaf am ei chastell canoloesol crand. Mae'n adeilad trawiadol a gafodd ei godi gan y Brenin Edward I yn ystod y 13eg ganrif i sicrhau ei rym yng Ngogledd Cymru. Cafodd y dref ei sefydlu ar yr un pryd ac mae'r waliau amddiffynol yn dal i sefyll heddiw. Serch hynny, y castell - man arwisigiad Tywysog Cymru - sy'n cael y sylw mwyaf. Mae dinas gadeiriol Bangor, ychydig filltiroedd o Lanberis, hefyd yn cynnig atynniadau fel Castell Penrhyn a bywyd byrlymus tref brifysgol.
|